Telerau ac Amodau
Archeb Anghyflawn
Byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost os na fyddwn yn gallu cyflawni eich holl archeb.
Gallwch gorchymun i ni anfon y cynnyrch sydd ar gael, ac yna anfon y cynnyrch sy'n weddill yn nes ymlaen. Fodd bynnag, mi fydd tâl postio ar wahân ar gyfer pob parsel felly bydd hyn yn cynyddu cost danfon.
Costau Danfon
Fe fydd Pur o Natur yn gwneud eu gorau i ddanfon yr holl cynnyrch o fewn 24 awr o dderbyn eich archeb.
Archebion hyd at £40 mewn gwerth yn cario tâl danfon £3.00.
Archebion dros £40 yn cael eu danfon AM DDIM i Gymru, Lloegr a'r Alban.
Yn dibynnu ar cyfaint a phwysau'r archeb, byddwn yn danfon eich archeb drwy gwasanaeth y post brenhinol, os yn bosib.
Ar gyfer dosbarthu yn y DU, os gwelwch yn dda, mae angen caniatáu hyd at 5 diwrnod gwaith.
Efallai bydd rhai o'r cynnyrch yn cael eu danfon gydarhyw fath o wasanaeth post cofnodol a bydd angen llofnod ar y debynneb.
Gwnewch yn siwr bod rhywun ar gael i lofnodi ar gyfer y cynnyrch, ac os ydych yn gweld unrhyw niwed i'r pecynnau, gwnewch nodyn ar bapurau post y negesydd a rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.
Ym mhob achos, oni bai eich bod yn cael y cyfle i agor y parsel ac archwlio'r cynnyrch am unrhyw ddifrod cyn i'r negesydd adael, fe'ch cynghorir i arwyddo "heb ei harolygu".
Polisi Dychwelyd
Cewch ddychwelydcynnyrch i Pur o Natur o fewn 7 diwrnod o'i dderbyn os, am unrhyw reswm, byddwch yn anhapus gyda nhw.
Mae rhaid cysylltu gyda Puro Natur ar y ffôn o fewn 7 diwrnod o'i dderbyn os ydych yn bwriadu dychwelyd unrhyw cynnyrch.
Byddwch yn gyfrifol amcostau o ddychwelyd y cynnyrch oni bai eich bod wedi derbyn y cynnyrch anghywir, neu os oes rhywbeth o'i le â'r cynnyrch.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth post cofnodol (recorded delivery service).
Mae rhaid dychwelyd ycynnyrch yn eu pecyn gwreiddiol a dylid cymeryd gofal i sicrhau nad ydynt wedi cael eu difrodi mewn unrhyw ffordd.
Prisiau
Mae Pur o Natur yn ymdrechu i sicrhau bod holl prisiau a gwybodaeth y cynnyrch mor gywir ag y bo modd. Gall prisiau ac argaeleddcynnyrch newid heb rybudd.
Mae rhai cynnyrch yn cynnwys treth gwerthiannau y DU o 20%. Y pris sydd wrth ochr y cynnyrch yw'r pris terfynnol.
Taliadau
Mae'r holl daliadau ar-lein yn cael eu cynnal trwy weinyddwyr diogel Nochex.
Ni fydd unrhyw rwymedigaeth cytundebol rhygoch chi a Pur o Natur ar gyfer cyflenwad ganddo i chi am unrhyw cynnyrch hyd nes y caiff y cynnyrch eu cludo ac i'r cerdyn credyd ei ddebydu.
Bydd unrhyw anghydfodau mewn hawliadau sy'n deillio o gontract o'r fath yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.
Diogelwch
Mae ein gwefan yn ddiogel. Nid yw manylion cardiau credyd yn cael eu storio ar-lein. Rydym yn defnyddio systemau Nochexsecure ar gyfer yr holl gweithrediad masnachol er mwyn i chi siopa gyda hyder.
Gwadiadau
Nid yw Pur o Natur yn benodol yn gwarantu bod y gwybodaeth a gynhwysir ar y safle hwn yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfoes ar hyn o bryd. Mae Pur o Natur, ei gyfarwyddwyr, gweithwyr a chynrychiolwyr yn gwadu pob iawndal sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan hon neu unrhyw cynnwys a gwybodaeth a gynhwysir yn y safle. Mae'r cyfyngiad yma o atebolrwydd yn cynnwys iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colled neu ddifrod i eiddo a hawliadau trydydd partïon ymhlyg neu fel arall.
Polisi Preifatrwydd
Rydym wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd!
Mae eich manylion personol yn ddiogel gyda Pur o Natur ac yr ydym yn gwbl ymroddedig i warchod eich preifatrwydd.
Cyfeiriad Ebost
Nid ydym yn cyfnewid, gwerthu, rhentu neu rhoi eich cyfeiriad ebost neu unrhyw fanylion eraill i gwmniau eraill.
Archebu
Pan fyddwch yn archebu mae angen i ni wybod eich enw, cyfeiriad, manylion cerdyn credyd a chyfeiriad ebost.
Nid yw manylion cardiau credyd yn cael eu storio ar-lein neu yn lleol ar ein cyfrifiaduron.
Nochex sydd yn trin holl daliadau ar-lein.
Ffurflen Gyswllt
Rydym yn cadw manylion ar ein cyfrifiaduron sydd yn ymwneud â'r wybodaeth a rowch i ni ar ein ffurflen gyswllt/drwy ebost. Rydym yn gwneud hyn er mwyn ymateb i'ch ymholiadau.
Os nad ydych am i ni gadw eich manylion ar ffeil rhowch wybod i ni.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i gofio manylion fel eich enw a'ch cyfeiriad. Mae hyn yn arbed amser i'n cwsmeriaid sydd yn dychwelyd ar ymweliadau dilynol. NID yw manylion eich cerdyn credyd yn cael ei storio ar-lein. Rydym yn defnyddio Google Analytics i olrhain ymweliadau ar wefan.
