Partion Pur o Natur
Beth am gael parti gofal croen naturiol yn y cartref gyda'ch cyfeillion, fel y gallwch profi ein cynnyrch eich hun a chael noson ddifyr ar yr un pryd?
Beth ddylwn i wneud nesaf?
Ffoniwch ni ar 01766 771 841 neu cysylltwch a ni i wneud trefniadau. Y cyfan fydd angen fydd bwrdd i arddangos y cynnyrch ac ychydig byrbrydau a diodydd (nid o reidrwydd meddwol!)
Fel diolch gewch ddewis rhodd o gynyrch Pur o Natur sydd gwerth 10% o gyfanswm gwerthiant y parti.
Ffair Codi Arian
Os ydych yn ceisio codi arian ar gyfer eich ysgol feithrin lleol, ysgol gynradd, Merched y Wawr ayyb, yna beth am gwahodd ni draw? Gallem gosod stondin yn eich ffair neu fynychu cyfarfod. Bydd Pur o Natur yn rhoi 10% o gyfanswm ein gwerthiant yn y cyfarfod er mwyn eich sefydliad, ar yr amod y bydd gwerthiant y noson drost £100.
Mae'r gwasanaeth yma ar gael yn ardaloedd:
Gogledd Orllewin Cymru: Catherine Williams 01766 771 841 neu post@puronatur.co.uk
Gyda'r nos, y dydd neu penwythnos hyd yn oed - dim ond gofyn.
