Cefndir

Ein Cred: Fel mam i dri o blant, sydd yn dioddef alergedd croen, yr oeddwn yn poeni am yr hyn oeddwn i a fy mhlant yn rhoi ar ein cyrff, ac felly dyma dechrau edrych am cynnyrch gofal croen organig a naturiol o ansawdd da i ni eu defnyddio. Arweiniodd hyn at ffurfio cwmni bach teuluol yn y gred y dylai pawb elwa o cynnyrch gofal croen sydd mor bur a naturiol a sydd bosib.

Y Gymraeg: Er fy mod i yn ffynnu o ochrau Sir Gaer, mae Cymraeg yn iaith bwysig i mi. Yn briod i Gymro ac gyda tri o blant bach, Cymraeg yw iaith y cartref. Mi wnes i lwyddo cyrraedd rownd derfynnol Dysgwr y Flwyddyn yn eisteddfod Y Sosban Fach, Llanelli yn y flwyddyn 2000, ers hynny dwi wedi bod yn addysgu Cymraeg i oedolion yn ardal Meirionydd. Mae Pur o Natur yn credu bod cefnogi a defnyddio’r iaith yn holl bwysig yn ein busnes, dyna pam mae holl cynnyrch ein gwefan wedi dod o Gymru er mwyn cefnogi busnesau Cymreig, a dod a arian i'r economi o fewn Cymru.

Ein Cynnyrch: Dim ond cynnyrch o Gymru y gwelir ar ein gwefan. Yn llawn daioni naturiol, mae pob cynhwysyn a ddewisir er lles i’ch croen a’ch corff. Felly, fel gyda phob peth o natur mae angen gofal gyda’r cynnyrch, dylai’r cynnyrch gofal croen gael eu cadw mewn lle tywyll di-wres, i ffwrdd o olau’r haul a rheiddiaduron. Dylid eu defnyddio tra ar eu mwyaf ffres a gorau.

Heb eu profi ar anifeiliaid: Nid oes yr un o’n cynnyrch neu cynhwysion wedi cael eu profi ar anifeiliaid.

Yn addas ar gyfer llysieuwyr a feganiaid: Mae ein holl cynnyrch yn addas i lysieuwyr, ond mae rhai yn cynnwys llaeth gafr, mêl a chŵyr gwenyn, felly darllenwch y cynhwysion yn ofalus.

Dim Cemegoedd!: Mae ein croen yn amsugno hyd at 60% o’r hyn yr ydym yn ei rhoi arno, felly yr ydym yn credu na ddylid roi ar ein cyrff unrhyw beth a all fod yn newidiol i ni, yr amgylchedd neu ein byd. Rydym yn Pur o Natur yn credu y dylai cynnyrch gofal croen fod yn rhydd o petrocemegion, persawrau artiffisial a thocsinau. Does dim SLS, SLES, parabens, ffthaladau, alcohol isopropyl, methylsothiasolinone neu propylen glycol yn unrhyw un o’n cynnyrch.

Masnach Teg: Mae llawer o’n cynnyrch yn cael eu gwneud gyda cynhwysion sydd wedi eu masnachu’n deg, fel menyn Shea, menyn Cocoa a olewau hanfodol planhigion. Mae hyn yn golygu bod y cynhyrchwyr tramor yn cael pris teg am y cynhwysion a thrwy hynny yn eu galluogi i fyw a gweithio yn eu cymuned.

Gofal am yr Amgylchedd: Rydym yn anelu at gadw ein defnydd-carbon mor isel ag y bo modd, felly mae Pur o Natur yn casglu cynnyrch o ffynonellau lleol neu o fewn Cymru. Drwy brynu ei cynnyrch, felly, mi fyddwch yn cefnogi busnesau mewn ardaloed gwledig Cymru ac nid cynnyrch sydd wedi eu cludo am filltiroedd o tu hwnt i Clawdd Offa neu Ewrop. Mae holl ofynion ynni ein busnes yn dod o drydan adnewyddadwy. Mae’r papur a deunydd pacio a ddefnyddiwn i gyd yn ailgylchadwy neu yn bioddiraddadwy a gellir eu hailgylchu er mwyn cadw effaith ar yr amgylchedd i’r lleiaf. Mae’r rhan fwyaf o jariau a photeli i’n cynnyrch wedi eu gwneud o wydr lle mae posib ailgylchu, ac mae hyn hefyd yn atal cemegoedd rhag gollwng i mewn i’r cynnyrch fel y buasai yn digwydd o jariau plastig.

Beth am gael parti gofal croen naturiol yn y cartref gyda’ch cyfeillion fel y gallwch roi cynnig ar gynnyrch arbennig Pur o Natur a chael noson ddifyr ar yr un pryd? Os am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein tudalen Partïon, neu cysylltwch â Pur o Natur.

Delivery

Basket

Checkout

Ffoniwch Pur o Natur, Gofal Croen Organig yma!

View this website in Welsh?